Pray For Government

1 Timothy 2:1-4

I urge you, first of all, to prayer for all people. Ask God to help them; intercede on their behalf, and give thanks for them. Pray this way for kings and all who are in authority so that we can live peaceful and quiet lives marked by godliness and dignity. This is good and pleases God our Saviour, who wants everyone to be saved and to understand the truth.

Jeremiah 29:7

And work for the peace and prosperity of the city where I sent you into exile. Pray to the Lord for it, for its welfare will determine your welfare

Romans 13:1

Everyone must submit to governing authorities. For all authority comes from God, and those in positions of authority have been placed there by God.

Perhaps some of the most well known passages from the Bible about prayer for Government.

We are called to intercede for those in authority for in their hands lies our well being.

We pray for our leaders because we are instructed to do so by God and because the decisions they take affect the conditions we live in and have an impact on our families, our churches, our workplaces, our communities, on every aspect of our life.

One of the oft stated goals of the National Prayer Breakfast Wales is a “Blessed Assembly..... A Blessed Nation.”

To achieve that, the object stated in the Trust Document says:

The objects of the Trust are: to further and advance the Christian Religion and in furtherance of this object … to convene a Prayer Breakfast to encourage the people of Wales to intercessory prayer.  Trust Document

Elfed Godding has said “The NPBW has blazed a trail of prayer across Wales over the past 20 years for local and national government in a connected way and has left a legacy of several local Prayer Breakfast initiatives and a far greater understanding of the need to pray strategically for our government.  

For two decades the National Prayer Breakfast for Wales has done just that. It has sought to bring together Christians from all denominations to pray for the Assembly and the Nation.  However, the last National Prayer Breakfast was in 2013 and since that time while prayer has continued there have been no National “Breakfasts” to help concentrate and stimulate that prayer

In those 4 years when the National Prayer Breakfast in Wales has not met, many new initiatives have been called forward by God, and some, which have similarly been lying fallow for some time, are being called back to bear fruit once more.

As the Trustees seek Gods way forward for the National Prayer Breakfast it seems right to gather a picture of what God is doing now to support our Assembly in prayer and against that backdrop seek Gods will for the way forward.

While prayer has taken place every month by a small and dedicated team in the Assembly, the Trustees feel now is the time to look again at how the National Prayer Breakfast for Wales can help to gather a momentum of prayer for our Assembly and the Members and staff in it.  As we have deliberated it has become clear to us we need to see what is taking place across the country, in its many different forms, of prayer for the Assembly and Nation, and set against that background, seek Gods heart in this matter.

As we look at the communities around us and the situations being faced on local, national and international level events seem to speed past us at an ever increasing pace and major challenges are being faced by those we have elected to lead us.

The pressure on our elected representatives would seem to be increasing daily, and yet the very ground under their feet seems to also be about to change as we approach the outworking of the Referendum on Europe.

We are calling together a group of people to seek God on the way forward and to encourage each other with testimonies of what God is doing in different areas.  If you would like to participate in this discussion, please feel free to contact us.

In the mean time we invite you continue to stand with us in prayer for our Assembly Members asking  God  to pray guide them as they guide us, that they will be wise and discerning and surrounded by helpful advisors. We can ask that God will use them as He will, and we should also pray for their protection and that God will have His way in their hearts.  We pray for their health and safety that they will govern with wisdom for the “welfare of the city”.

Gweddio dros Lywodraeth

1 Timotheus 2:1-4

O flaen popeth arall dw i'n pwyso arnoch chi i weddïo dros bawb – pledio a gweddïo'n daer; gofyn a diolch i Dduw ar eu rhan nhw. 2 Dylech chi wneud hynny dros frenhinoedd a phawb arall mewn safle o awdurdod, er mwyn i ni gael heddwch a llonydd i fyw bywydau duwiol a gweddus. 3 Mae gweddïo felly yn beth da i'w wneud, ac yn plesio Duw sydd wedi'n hachub ni. 4 Achos mae e am i bobl o bob math gael eu hachub a dod i wybod y gwi

Jeremeia 29:7

Gweithiwch dros heddwch a llwyddiant y ddinas lle dw i wedi mynd â chi'n gaeth. Gweddïwch ar yr ARGLWYDD drosti. Ei llwyddiant hi fydd eich llwyddiant chi.

Romans 13:1

Dylai pawb fod yn atebol i awdurdod y llywodraeth. Duw sy'n rhoi awdurdod i lywodraethau, ac mae'r awdurdodau presennol wedi'u rhoi yn eu lle gan Dduw.

Dyna’r adnodau mwyaf adnabyddus o'r Beibl am weddïo dros Lywodraeth mae’n siwr.

Gelwir arnom i eiriol dros y rhai hynny sydd mewn awdurdod am fod ein lles ni yn gorwedd yn eu dwylo hwy.

Gweddïwn dros ein harweinwyr am fod Duw yn dweud wrthym am wneud hynny, ac am fod y penderfyniadau a wnânt yn effeithio ar ein hamodau byw ac yn cael effaith ar ein teuluoedd, ein heglwysi, ein gweithleoedd, ein cymunedau, ac ar bob agwedd ar ein bywydau.

Sonir yn aml am un nod sydd gan y Brecwast Gweddi Cenedlaethol - "Cynulliad wedi ei fendithio ..... Cenedl wedi ei bendithio."

I gyflawni hynny, dyma ddywedir yn y Ddogfen Ymddiriedolaeth:

Amcanion yr Ymddiriedolaeth yw: hyrwyddo a hybu y Grefydd Gristnogol, ac er hyrwyddo’r amcan hwn … i gynnull Brecwast Gweddi i annog pobl Cymru i weddi ac ymbil. Dogfen Ymddiriedolaeth

Dywedodd Elfed Godding "Mae'r BGCC wedi arwain pobl ar hyd a lled Cymru yn yr 20 mlynedd diwethaf i weddïo dros llywodraeth leol a chenedlaethol mewn ffordd ystyrlon, ac mae wedi gadael etifeddiaeth o sawl Brecwast Gweddi Lleol a llawer gwell dealltwriaeth o'r angen i weddïo’n strategol dros ein llywodraeth.”

Am ddau ddegawd mae Brecwast Gweddi Cenedlaethol Cymru wedi gwneud yn union hynny. Mae wedi ceisio galw Cristnogion o bob enwad at ei gilydd i weddïo dros y Cynulliad a'r Genedl. Fodd bynnag, roedd y Brecwast Gweddi Cenedlaethol diwethaf yn 2013, ac ers hynny tra bo’r gweddïau wedi parhau ni fu unrhyw “Frecwast" Cenedlaethol i helpu i ddwysau ac ysgogi’r gweddïau hynny.

Yn y blynyddoedd pan nad yw'r Brecwast Gweddi Cenedlaethol yng Nghymru wedi cyfarfod, mae llawer o fentrau newydd wedi dod i fodolaeth dan arweiniad Duw, ac mae eraill wedi bod yn gorwedd fel tir heb ei drin ers peth amser, ond yn cael eu galw yn ôl i ddwyn ffrwyth unwaith eto.

Wrth i’r Ymddiriedolwyr geisio arweiniad Duw am y ffordd ymlaen i'r Brecwast Gweddi Cenedlaethol teimlwn ei bod yn bwysig i geisio gweld y darlun llawn o'r hyn mae Duw yn ei wneud ar hyn o bryd i gefnogi ein Cynulliad mewn gweddi, ac yna ar y gefnlen yna, ceisio arweiniad Duw ynglŷn â’r ffordd ymlaen.

Er fod tîm bychan ac ymroddedig wedi bod yn cyfarfod yn adeilad y Cynulliad i weddïo bob mis, mae’r Ymddiriedolwyr yn teimlo ei bod yn bryd edrych eto ar sut y gall Brecwast Gweddi Cenedlaethol Cymru helpu i gynyddu’r momentwm o weddi dros ein Cynulliad Cenedlaethol a'r Aelodau a’r staff ynddo. Mae wedi dod yn amlwg i ni yn ein trafodaethau fod angen gweld beth sy'n digwydd ar hyd a lled y wlad, lle mae gweddi dros y Cynulliad a’r Genedl yn y cwestiwn.  Gallwn wedyn geisio darganfod beth sydd ar galon Duw ei hun yn hyn o beth.

Wrth i ni edrych ar y cymunedau o'n cwmpas ac ar y sefyllfaoedd a wynebir yn lleol, yn genedlaethol ac yn rhyngwladol, mae’n ymddangos fod pethau’n digwydd o’n cwmpas ar garlam a bod sawl her sylweddol yn wynebu’r rhai yr ydym wedi eu hethol i’n harwain.

Mae'r pwysau ar ein cynrychiolwyr etholedig yn cynyddu o ddydd i ddydd, tra’i bod yn ymddangos fod y tir o dan eu traed yn symud wrth i ni nesáu at wireddu goblygiadau y Refferendwm ar Ewrop.

Rydym am alw grŵp o bobl at ei gilydd i geisio arweiniad Duw am y ffordd ymlaen ac i annog ein gilydd drwy rannu'r hyn y mae Duw yn ei wneud mewn gwahanol ardaloedd. Os hoffech chi gymryd rhan yn y drafodaeth hon, mae croeso i chi gysylltu â ni.

Yn y cyfamser rydym yn eich gwahodd i sefyll gyda ni mewn gweddi dros Aelodau'r Cynulliad, gan ofyn i Dduw eu harwain wrth iddynt hwy ein harwain ni.  Gweddïwn y byddant yn ddoeth ac yn graff ac wedi'u hamgylchynu gan ymgynghorwyr praff. Gallwn weddïo y bydd Duw yn eu defnyddio, a dylem hefyd weddïo y bydd Duw yn eu diogelu ac yn cyflawni ei fwriadau trwyddynt. Gweddïwn dros eu hiechyd a'u diogelwch, ac y byddant yn llywodraethu gyda doethineb er “lles a llwyddiant y ddinas".

Make a free website with Yola